P-06-1375 Cynnal etholiad Senedd yn gynnar
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Graham Bishop, ar ôl casglu 15,439 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ar ôl i Mark Drakeford a’i blaid Lafur barhau i fethu, rydym yn gofyn am etholiad cynnar er mwyn inni gael cyfle i bleidleisio am blaid lywodraethu newydd yng Nghymru. Ymhlith methiannau Llafur Cymru mae’r ffordd y maent wedi ymdrin â’r pandemig covid, yn rheoli systemau addysg alwedigaethol Cymru a hefyd eu methiant diweddaraf… y terfynau cyflymder 20mya newydd sy’n cael eu cyflwyno yng Nghymru. Mae economi Cymru yn methu ac mae angen newid. Mae’n bryd inni gael arweinydd newydd yn y Senedd.
Gwybodaeth ychwanegol:
https://www.business-live.co.uk/opinion-analysis/labour-been-disaster-welsh-economy-25470185.
Mae hyn fwy neu lai yn cwmpasu popeth er mai barn ydyw ac nid yw’n ffeithiol.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Wrecsam
· Gogledd Cymru